Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Chwefror 2014 i'w hateb ar 12 Chwefror 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

1. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rôl ysbytai cymunedol yn nyfodol gwasanaeth iechyd Cymru? OAQ(4)0390(HSS)W

 

2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0395(HSS)


3. Keith Davies (Llanelli):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau o ran darpariaeth gwasanaeth iechyd yn Sir Gaerfyrddin?  OAQ(4)0402(HSS) TYNNWYD YN ÔL

 

4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd mewn gofal canser yng Nghymru? OAQ(4)0389(HSS)

 

5. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0398(HSS)

 

6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0387(HSS)

 

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau rheoli poen cronig yng Nghymru? OAQ(4)0399(HSS)

 

8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith mentrau i gyfyngu ar nifer y bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru? OAQ(4)0401(HSS)W

 

9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru wledig? OAQ(4)0388(HSS)

 

10. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0393(HSS)W

 

11. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi bod adnoddau digonol yn y GIG i ymdrin yn effeithiol â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol? OAQ(4)0386(HSS)

 

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir gan Ysbyty Nevill Hall i boblogaeth de Powys? OAQ(4)0400(HSS)

 

13. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0396(HSS) TYNNWYD YN ÔL

 

14. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?    OAQ(4)0397(HSS)W

 

15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol? OAQ(4)0385(HSS) TYNNWYD YN ÔL

 

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa bwysoliad y mae'n ei roi i bolisïau i fynd i'r afael â thlodi gwledig yn ei Gynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi cyffredinol? OAQ(4)0135(CTP)

 

2. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau arbennig y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i leihau nifer y menywod yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi? OAQ(4)0128(CTP)

 

3. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau cynhwysiant ariannol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0132(CTP)

 

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru? OAQ(4)0137(CTP)

 

5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer gweithredu Bil Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)? OAQ(4)0139(CTP)

 

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â benthyca ar garreg drws, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru? OAQ(4)0127(CTP)

 

7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru i Undebau Credyd yng Nghymru? OAQ(4)0129(CTP)

 

8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae datblygu cynaliadwy yn ganolog i raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0140(CTP)W

 

9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi sy'n seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru? OAQ(4)0134(CTP)

 

10. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur effeithiolrwydd polisïau a fwriedir i leihau amddifadedd mewn ardaloedd gwledig o Gymru? OAQ(4)0130(CTP)

 

11. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau i fynd i'r afael â thlodi drwy’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0141(CTP) TYNNWYD YN ÔL

 

12. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gamau Llywodraeth Cymru i leihau lefelau tlodi yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0136(CTP) TYNNWYD YN ÔL

 

13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Teuluoedd yn Gyntaf yn mynd rhagddo mewn perthynas â'i dargedau? OAQ(4)0131(CTP)

 

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y polisïau ar gyfer cydlyniant cymunedol y mae'n bwriadu eu cyflawni yn 2014? OAQ(4)0126(CTP)

 

15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r rhwydwaith Cyngor ar Bopeth ym Mhowys? OAQ(4)0138(CTP)